Materion Uwchraddedigion

ASESIADAU SEMESTER DAU

 

Amgylchiadau Arbennig: Cofiwch roi gwybod i'ch adran[nau] am unrhyw anghenion arbennig (meddygol, personol ac ati) a allai effeithio ar eich perfformiad yn Semester Un mewn digon o bryd, a CYN y cyfarfodydd byrddau arholi.  Gwnewch hyn trwy gwblhau “Ffurflen Amgylchiadau Arbennig” sydd ar gael gan eich Adran drwy ddolen ar eich Cofnod Myfyriwr neu ar y we yma: https://www.aber.ac.uk/cy/aqro/handbook/taught-schemes/. Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r ffurflen amgylchiadau arbennig i’r adran(nau) academaidd ynghyd ag unrhyw dystiolaeth gefnogol.  Bydd yn llawer mwy anodd newid marciau am fodiwlau unwaith y cytunwyd arnynt gan byrddau arholi’r adran ar Senedd.

 

Amserlen yr Arholiadau: Cofiwch wneud yn siŵr o’r amserlen arholiadau eich bod yn troi i fyny yn y man iawn ar yr amser iawn. Nid yw camddeall yr amserlen yn rheswm dilys am fod yn absennol ac fe allech fethu'r flwyddyn gyfan o ganlyniad i hyn.

 

Canlyniadau: Ar ôl i’r Bwrdd Arholi gadarnhau eich marciau bydd eich canlyniadau yn cael eu gosod ar eich Cofnod Myfyriwr ar y we ar ôl 10yb Dydd Iau 27 Mehefin.

 

Asesiadau Ailgynnig yr Haf: Mae’n hollbwysig eich bod yn gwirio eich canlyniadau ac yn cofrestru eich bwriad OS bydd opsiwn gennych i ailsefyll unrhyw fodiwl (gwaith cwrs neu arholiad) yn ystod cyfnod Asesiadau Ailgynnig yr Haf ym mis Awst. 

 

Dylai myfyrwyr sydd yn disgwyl ei thystysgrif radd derfynol sicrhau bod ei enw a chyfeiriad cartref yn gywir.  Eich enw fel mae yn ymddangos ar eich cofnod myfyriwr fydd sut y caiff ei argraffu ar eich tystysgrif gradd, a’ch cyfeiriad cartref fel y mae’n ymddangos ar eich cofnod myfyriwr yw lle bydd eich tystysgrif yn cael ei hanfon os na fyddwch yn ei chasglu’n bersonol ar ôl graddio.  Sicrhewch fod y wybodaeth hon yn gywir erbyn 20 Mehefin 2024 fan bellaf.

Cysylltwch â Ni

Tîm E-bost Ffôn
Materion Gweinyddu Myfyrwyr Uwchraddedig pgsstaff@aber.ac.uk (01970) 622272 / 622354 / 622849
Ysgol Graddedigion ysgol.graddedigion@aber.ac.uk 01970 622219

Materion Academaidd - cefnogaeth wyneb yn wyneb

Gwasanaethau Ymholiad Rhithwir

 

Cyfeiriad

Cofrestrfa Academaidd,
Prifysgol Aberystwyth,
Adeilad Cledwyn,
Penglais,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3DD

Yr ydym ar agor dydd Llun i dydd Iau 9yb hyd at 5yp, dydd Gwener 9yb hyd at 4yp.

Gwybodaeth Ychwanegol

Cewch wybodaeth ddefnyddiol hefyd ar we-ddalennau eich Adran. Fe'u lluniwyd i roi gwybodaeth penodol i'ch cwrs ac argymhellir eich bod yn bwrw golwg arnynt.