Llety yn y Sector Preifat

Mae byw mewn llety preifat yn ffordd wych o ymgolli'n llwyr yn nhref Aberystwyth.  Bydd yn cynnig mwy o breifatrwydd, a'r gallu i ddewis gyda phwy rydych chi'n byw, a ble rydych chi'n byw. Bydd y rhan fwyaf o lety preifat yn y dref neu'r ardaloedd cyfagos a bydd ganddynt gysylltiadau trafnidiaeth da ar y campws. Mae rhannu tŷ gyda ffrindiau fel arfer yn opsiwn i fyfyrwyr ail flwyddyn.

Awgrymiadau ar gyfer chwilio eiddo

 

  • Ewch â rhywun gyda chi i weld eiddo, mae'n ddefnyddiol cael ail farn
  • Os ydych chi'n bwriadu byw gyda ffrindiau, gwnewch yn siŵr bod pawb yn gweld yr eiddo
  • Gofynnwch gymaint o gwestiynau i'r asiant gosod/landlord ag sydd eu hangen arnoch
  • Os gallwch chi, siaradwch â'r tenantiaid presennol am eu profiad o fyw yno
  • Edrychwch ar gyflwr yr eiddo a'r dodrefn, yn ogystal â'r cloeon ar ffenestri a drysau
  • Os oes angen atgyweirio unrhyw beth, sicrhewch fod y landlord neu'r asiant yn ysgrifennu y byddant yn ei drwsio cyn i chi symud i mewn
  • Cymerwch eich amser wrth edrych o gwmpas
  • Gosod cyllideb a chadw ati - gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried yr holl filiau a chostau byw
  • Ystyriwch a fydd angen parcio arnoch

Asiantau Gosod

Os yw'n well gennych reoli'r broses gyfan eich hun, mae nifer o asiantaethau gosod yn Aberystwyth a'r cyffiniau

  • Nid yw'r Brifysgol yn ymwneud ag asiantaethau gosod preifat, felly ni all warantu ansawdd na lefel y gwasanaeth
  • Efallai y bydd ffioedd ychwanegol i'w hystyried, fel ffioedd gweinyddol neu wiriadau credyd
  • Mae'r eiddo yn cael ei hysbysebu drwy gydol y flwyddyn

StudentPad

Landlordiaid preifat yn hysbysebu eu heiddo ar Studentpad

Gallwch chwilio am fflatiau a thai yn uniongyrchol ar y platfform

Byddwch yn delio'n uniongyrchol â'r landlord ac ni fydd y tîm llety yn cymryd rhan

Er mwyn hysbysebu ar Studentpad, rhaid i eiddo fodloni gwiriadau ansawdd a diogelwch penodol a osodir gan Gyngor Sir Ceredigion

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn ymweld nac yn arolygu eiddo Studentpad

Os ydych yn asiant/landlord sy'n dymuno hysbysebu llety myfyrwyr ar Studentpad ewch i'r dudalen Asiant/Landlord.

 

Facebook

Edrychwch ar ein tudalen Facebook sy'n ymroddedig i bopeth 'Llety'! Defnyddiwch hwn i rannu unrhyw llefydd gwag y gallech fod yn ymwybodol ohonynt, trafod materion rydych wedi'u cael a rhannu eich profiadau o chwilio am lety preifat. Mae hefyd yn ffordd wych o gwrdd â phobl a allai hefyd fod yn chwilio am rywun i rannu tŷ/fflat gyda nhw. Rydym hefyd yn postio diweddariadau rheolaidd ar y dudalen felly mae'n ffordd wych o gadw mewn cysylltiad â ni. 

Undeb y Myfyrwyr

Mae gwasanaeth cyngor Undeb y Myfyrwyr (UM) yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bob agwedd ar dai yn llety'r Brifysgol a'r sector preifat. Cymerwch gip ar Ganllaw Tai UMAber sydd ar gael ar dudalen we tai a llety Undeb y Myfyrwyr, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu wrth chwilio am dŷ yn y sector rhentu preifat, gan dynnu sylw at y pethau y dylech gadw llygad amdanynt a'ch hawliau fel tenant.

Gall yr UM eich cynghori ynghylch dod o hyd i le newydd, adolygu contractau cyn llofnodi yn ogystal â materion cyffredin sy'n digwydd yn ystod tenantiaeth a symud allan.

Bob blwyddyn mae'r Undeb yn cynnal digwyddiad Ffair Dai o gwmpas mis Tachwedd, sy'n rhoi cyfle i chi sgwrsio ag asiantau gosod lleol, Swyddfa Llety'r Brifysgol, Cymorth i Fyfyrwyr a Chanolfan Gynghori'r Undeb i'ch helpu i ddewis y lle iawn i fyw - i gyd o dan yr un to!