Datblygiad Proffesiynol
Dysgu, Ennill a Llwyddo
Mae pawb ohonon ni'n brysur ers Covid-19 yn ailhyfforddi a dysgu gwybodaeth newydd i hybu ein CV.
Yn ôl yr ystadegau bu cynnydd trawiadol eleni yn nifer yr oedolion sy'n mynd ati i ddysgu mewn rhyw ffordd, ac mae hyn wedi ysgogi cynllun datblygu yn yr adran Dysgu Gydol Oes i wahanu llawer o'r cyrsiau Datblygiad Proffesiynol o fewn y meysydd pwnc a'u gosod ar lwyfan hygyrch.
Wrth i'r economi brysuro tuag at y 'Diwydiant 4.0', mae rhai ohonom yn cadw golwg i weld sut y bydd hyn yn newid cyflogaeth. Ein cyfrifoldeb ni fel unigolion yw cymryd yr awenau wrth ddatblygu ein sgiliau. Mae cyflogwyr yn chwilio am sgiliau craidd sy'n cysylltu ag Amcanion Datblygiad Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae cyflogwyr mawr yn disgwyl ailhyfforddi tua 50% o'u staff yn y pum mlynedd nesaf. Mae'n bwysig ein bod yn hogi sgiliau nad oes modd i gyfrifiadur eu disodli er mwyn gallu addasu a symud ymlaen. Mae cyfathrebu, datrys problemau, hunan-reoli a chyd-drafod yn ddoniau a fydd yn hanfodol a deniadol i gyflogwyr yn ogystal â medrusrwydd digidol.
Ydych chi'n un a fyddai'n newid gyrfa? Mae Covid hefyd wedi peri i weithwyr ail gloriannu eu bywyd, symud i le llai, a sylweddoli nad yw'r swydd sydd ganddynt yn hyrwyddo cydbwysedd iach i fywyd. Efallai yr hoffech fod yn entrepreneur neu sefydlu menter gymdeithasol. Gall tro gyrfa fod yn gymhleth a chymryd tipyn o amser i ymchwilio iddo. Efallai y bydd angen ichi gael barn arbenigol a chymorth wrth geisio canfod a chaffael sgiliau gwahanol a dechrau troedio llwybr gyrfa newydd.