Gwasanaethau Llyfrgell
Sarah Gwenlan
Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Seicoleg
Ebost: ssg@aber.ac.uk
Mae Llyfrgell Hugh Owen yn darparu cyfoeth o adnoddau ar gyfer Seicoleg, rhai ar-lein yn ogystal â thestunau print. Fe welwch rai Adnoddau allweddol y Llyfrgell wedi’u rhestru isod.
Llyfrgellydd Pwnc:
Sarah Gwenlan ydw i, eich Llyfrgellydd Pwnc ar gyfer Seicoleg. Rwyf yma i'ch helpu i ddod o hyd i adnoddau a fydd yn eich galluogi i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau mewn Seicoleg a Chwnsela.
Gallaf eich helpu gyda’r tasgau isod:
- Dod o hyd i lyfrau priodol ac erthyglau mewn cyfnodolyn ar gyfer eich aseiniadau a'ch ymchwil
- Cyfeirnodi a dyfynnu
- Hyfforddiant sgiliau gwybodaeth a chymorth manwl sy’n benodol i’r pwnc
Rwy'n cynnig sesiynau galw heibio wyneb-yn-wyneb yn y llyfrgell:
- Ar ddydd Mawrth, 11-12: Llawr D, Llyfrgell Hugh Owen
- Ar ddydd Iau, 1-3pm: Ystafell 0.11, P5
Fel arall, cewch anfon ebost ataf i unrhyw bryd os oes gennych gwestiynau i mi, neu fe gewch drefnu apwyntiad drwy Teams neu'n bersonol: Archebu amser gyda Sarah Gwenlan [ssg] (Staff)